Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

       
Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015 a dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Toriad: Dydd Llun 30 Mawrth 2015 – Dydd Sul 19 Ebrill 2015

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015 a dydd Mercher 22 Ebrill 2015

Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015 a dydd Mercher 29 Ebrill 2015

 

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar gamau gweithredu sy’n deillio o adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cryfhau Polisi Caffael (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Adolygiad o’r Diwydiant Llaeth (30 munud)

·         Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Cymru) 2015 (30 munud)

·         Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 (15 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru (60 munud)

·         Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fesur Cymwysterau Cymru (5 munud)

 

Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5713

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a’r miloedd o swyddi y mae’n eu cefnogi.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy’n llifo i mewn i’r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni safon cyrchu cyfrifol BES 6001.

 

Mae’r Siarter Dur Cynaliadwy Prydeinig ar gael yma:

http://www2.eef.org.uk/NR/rdonlyres/04940D4A-E15E-43A5-8C41-51CD7EE4E13F/24323/TheCharterforBritishSustainableSteel1.pdf (Saesneg yn unig).

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

·         Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (5 munud)

·         Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (5 munud)

·         Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 22 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

·         Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru): Darparu Difidend Datganoli ar gyfer Cymru gyfan (30 munud) - Gohiriwyd ers 18 Mawrth 2015  (30 munud)

 

Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ran 2 yr ymchwiliad i Arferion gorau o ran y gyllideb - Cynllunio a gweithredu gweithdrefnau cyllidebol newydd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)